Russell George – Neges Calan 2017

Russell George – Neges Calan 2017

 

Hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd gan obeithio i chi gael Nadolig hwyliog a bendithiol! 

 

Wrth edrych yn ôl dros 2016, dyma un o flynyddoedd mwyaf cofiadwy a syfrdanol fy mywyd gwleidyddol – Etholiad y Cynulliad Cenedlaethol lle cefais yr anrhydedd o gael fy ailethol fel eich Aelod Cynulliad; canlyniad annisgwyl i refferendwm yr UE a barodd i’r Prif Weinidog, David Cameron, ymddiswyddo ac a sefydlodd Theresa May yn Brif Weinidog Newydd; canlyniad hyd yn oed mwy annisgwyl i Etholiad Arlywyddol UDA lle y gorchfygodd Trump yn gwbl groes i’r disgwyl, a pherfformiad hynod egniol Ed Balls ar Strictly Come Dancing! Os bydd 2017 unrhyw beth yn debyg i 2016, bydd yn flwyddyn wleidyddol brysur ac annisgwyl arall. 

 

O siarad â phobl ledled Sir Drefaldwyn, gwn fod cymysgedd gyfartal o ansicrwydd, anniddigrwydd a brwdfrydedd ynghylch yr hyn a ddaw yn sgil Brexit i ni yma ym Mhowys ac i’r economi a’r gymdeithas yn ehangach.

 

Beth bynnag oedd eich pleidlais yn y refferendwm, mae pob rheswm i fod yn hyderus ynghylch ein rhagolygon ar gyfer economi Cymru yn 2017 a thu hwnt. Er gwaethaf y rhagolygon diflas, daeth 2016 i ben gyda’r nifer isaf yn cael eu nodi’n ddi-waith ac mae economi Prydain mewn sefyllfa i fod yr un sy’n tyfu gyflymaf o blith y G7 yn 2017. Wrth gwrs, ni ddylem orffwys ar ein rhwyfau, ac mae angen sylw ar frys ar seilwaith fregus y Canolbarth fel y gallwn ledaenu’r neges fod Powys ar agor i fusnes heb os nac oni bai. Rydw i hefyd yn ymwybodol bod ein diwydiant Ffermio angen cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, llywodraeth sydd yn y gorffennol heb ganolbwyntio digon ar gefnogi’r sector bwysig hon.

 
Ym mis Rhagfyr, darparodd y Canghellor £400 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol dros bum mlynedd i Lywodraeth Cymru ac rydw i am weld yr arian hwnnw’n cael ei fuddsoddi yn seilwaith Cymru.

 

Yma yn y Canolbarth, mae busnesau’n colli arian bob blwyddyn yn sgil cysylltiadau trafnidiaeth gwael. Felly, un o’r uchafbwyntiau arbennig i mi yn 2016 fydd gweld cychwyn ar y gwaith hirddisgwyliedig o greu ffordd osgoi i’r Drenewydd. Mae galw wedi bod ers degawdau am ffordd osgoi i’r Drenewydd ac rwyf wrth fy modd y caiff hyn ei wireddu o’r diwedd. Bydd y ffordd osgoi yn hynod bwysig i’r economi, nid yn unig yn y Drenewydd ond ym mhob cwr o Sir Drefaldwyn a hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o hyrwyddo’r prosiect hwn.

 

Wrth i ni edrych ymlaen at 2017, bydd diwygiadau i wasanaethau’r GIG sy’n gwasanaethu Swydd Amwythig a’r Canolbarth ar flaen ein meddyliau. Mae’r newyddion yn galonogol fod “Bwrdd Rhaglen Parod at y Dyfodol y GIG” sef y corff sy’n gyfrifol am ystyried y dyfodol gorau i wasanaethau’r GIG yn ein hardal, wedi dod i’r casgliad y dylid lleoli Canolfan Gofal Argyfwng a Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Amwythig. Er ein bod yn dal i aros am y penderfyniad terfynol, mae Glyn Davies AS a minnau’n credu’n gryf bod yn rhaid cadw ac atgyfnerthu’r  gwasanaethau yn Amwythig sy’n lleoliad canolog i allu gwasanaethu anghenion gofal iechyd y rhanbarth yn ehangach.

 

Yn 2017, bydd cyfle arall i fwrw pleidlais unwaith eto ar 4 Mai i ethol ein cynghorwyr lleol. Ar sawl cyfri, bydd gan ein criw nesaf o gynrychiolwyr lleol y dasg annymunol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb toriadau hallt blynyddol Llywodraeth Cymru ar y gyllideb leol ac ar ddemocratiaeth leol. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, ymddengys bod Llywodraeth Cymru’n gorfodi toriadau anghymesur ar gyllideb Powys o gymharu â chynghorau eraill ledled Cymru ac mae hyn yn anorfod yn rhoi pwysau ar wasanaethau sydd eisoes dan bwysau megis Canolfannau Gofal Dydd y Sir sy’n darparu gwasanaeth hanfodol i lawer o henoed a phobl fwyaf bregus ledled Powys. Rwy’n falch fod cabinet y Cyngor yn ddiweddar wedi gallu canfod ffordd o sicrhau nad oedd canolfannau dydd y sir yn dod dan y lach, tra bod cyllid arall a threfniadau rheoli’n cael eu gwerthuso. Beth bynnag, bydd y pwysau ariannol ar wasanaethau lleol yn parhau a bydd yn bwysig i’r awdurdod lleol reoli ei adnoddau’n ofalus.

 

Mae’n debyg y bydd Addysg yn fater allweddol ar gyfer etholiadau’r Cyngor. Roedd ffigurau a gyhoeddwyd y mis diwethaf gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yn dangos bod Cymru am y pedwerydd tro mewn degawd wedi dod yn sylweddol is na gwledydd eraill y DU yn y Rhaglen Ryngwladol ar gyfer Asesu Myfyrwyr (PISA). Dangosodd y canlyniadau hyn fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu strategaeth glir i wella perfformiad yn y dyfodol. Mae ein plant yn haeddu system addysg o’r radd flaenaf gyda’r gorau yn y byd, ond mae  graddau PISA yn dangos bod Llywodraethau Cymru wedi parhau i fethu â chyflawni hyn. Ar ôl imi ymweld ag ysgolion Sir Drefaldwyn, credaf fod safon ein haddysgu yn lleol yn uchel, ac yn fy marn i, dylai ysgolion gael mwy o ryddid i reoli eu dyfodol eu hunain, ac rwy’n gryf o’r farn y dylid cadw pob un o ysgolion uwchradd presennol Sir Drefaldwyn. Dydy gorfodi disgyblion i dreulio rhagor o amser ar fws ddim yn mynd i wella addysg yn y Canolbarth.

 

Rwy’n awyddus i sicrhau na chaiff democratiaeth ei erydu gam wrth gam yn sgil mwy a mwy o ganoli gan Lywodraeth Cymru ym Mae Caerdydd, yn enwedig o safbwynt cynhyrchu ynni yn lleol a gwarchod harddwch ein cefn gwlad. Dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn lleol gan bobl leol ac rydw i bob amser wedi cefnogi datganoli grym fel y gall pobl leol wneud penderfyniadau am eu cymunedau eu hunain. Dylai penderfyniadau gael eu gwneud a gwasanaethau gael eu darparu yn llawer agosach at galon cymunedau lleol, yn hytrach na thrwy ddictad llywodraeth ganol.

 

I orffen, bydd llawer ohonoch yn gwybod fy mod wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer am fand-eang cyffredinol a chyswllt ffôn symudol di-dor i bobl Maldwyn. Mae’n sicr bod rhywfaint o gynnydd wedi ei wneud, ond eto mae yna lecynnau sylweddol o’r Sir lle mae’r gwasanaeth ffôn symudol a’r band-eang yn annigonol. Gallaf eich sicrhau y bydd mynd i’r afael â’r loteri cod post hwn yn parhau i fod yn un o’m blaenoriaethau yn 2017.

 

Unwaith eto, hoffwn ddymuno iechyd a hapusrwydd i chi yn 2017, a chofiwch fod croeso i chi gysylltu â mi os credwch y gallaf fod o gymorth.