Hydref 2019
Annwyl Breswylydd,
Yng nghylchlythyr y mis hwn, rwy’n croesawu’r newyddion bod Amwythig wedi derbyn y golau gwyrdd ar gyfer Canolfan Gofal Brys.
Byddwn hefyd yn eich annog i astudio'r cynigion yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a allai arwain at newidiadau posibl i'n tirweddau. Gallwch ddarllen fy adroddiad llawn yma.
Ar waelod fy e-newyddion, rwyf wedi cynnwys manylion diwrnod cyngor ar gyllido rydw i’n ei gynnal yn y Trallwng yn gynnar y mis nesaf. Croeso cynnes i bawb.
A chofiwch, os oes gennych chi unrhyw adborth neu os oes angen unrhyw gyngor neu gefnogaeth arnoch ar y materion a godir yn y cylchlythyr hwn, neu ar unrhyw fater arall, cysylltwch â mi da chi trwy ffonio fy swyddfa ar 01686 610887 neu trwy e-bostio russell.george@cynulliad.cymru
Pob hwyl
Russell
Russell George AC
Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn
Golau gwyrdd a gyfer Canolfan Gofal Brys yn Amwythig
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd bod Matt Hancock AS, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, wedi cadarnhau y byddai cynlluniau "Future Fit" yn bwrw ymlaen i adeiladu Canolfan Gofal Brys newydd yn Amwythig. Daw'r newyddion hyn ar ôl blynyddoedd o ddadlau ac o ymgyrchu dros wasanaethau ysbyty Swydd Amwythig.
Bydd hyn nawr yn golygu y bydd Ysbyty Brenhinol Amwythig yn troi’n Ganolfan Gofal Brys newydd ac y bydd Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol yn Telford yn troi’n Ganolfan Gofal wedi'i Gynllunio, gyda chanolfan Gofal Brys 24 awr yn y ddau ysbyty.
Efallai y cofiwch chi, yn gynharach eleni, bod cynlluniau i drawsnewid gwasanaethau ysbyty i hanner miliwn o breswylwyr y Canolbarth, Swydd Amwythig a Telford wedi derbyn sêl bendith. Fodd bynnag, roedd Cyngor Telford a Wrekin wedi herio'r broses benderfynu a'r argymhellion. Roedd wedi cyfeirio'r mater yn ffurfiol i Ysgrifennydd Iechyd y DU, a ofynnodd wedyn i banel annibynnol ymchwilio i'r mater ymhellach cyn gwneud penderfyniad.
Rwy’n hynod falch bod Matt Hancock bellach wedi derbyn eu cyngor annibynnol y dylai "Future Fit" fwrw ymlaen â'r ganolfan gofal brys newydd i'w lleoli yn Amwythig, ochr yn ochr â gwella mathau eraill o ofal. Mae hyn yn fuddsoddiad enfawr o dros £300 miliwn mewn gofal critigol a brys o'r radd flaenaf sydd nawr yn cael ei fuddsoddi yn Amwythig.
Mae’n ddatblygiad cadarnhaol i ni yn y Canolbarth oherwydd nid yn unig y byddwn yn gweld gofal iechyd brys sy’n achub bywydau yn cael ei leoli yn Amwythig, gyda'r buddsoddiad mawr a ddaw yn ei sgil, ond byddwn hefyd yn gweld gwasanaeth dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar gyfer menywod a phlant yn dychwelyd i Amwythig.
Bydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu darparu yn Ysbyty Brenhinol Amwythig:
- Adran Gofal Brys 24 awr
- Uned Gofal Critigol
- Uned Gofal Brys Symudol
- Meddygaeth a llawfeddygaeth frys
- Llawdriniaeth gymhleth wedi'i chynllunio
- Gwasanaethau cleifion mewnol dan arweiniad meddygon ymgynghorol ar gyfer menywod a phlant
Bydd y gwasanaethau canlynol yn cael eu darparu yn Ysbyty'r Dywysoges Frenhinol yn Telford:
- Llawdriniaeth cleifion mewnol wedi'i chynllunio
- Llawdriniaeth cleifion allanol
- Gwasanaethau cleifion mewnol y fron
- Wardiau meddygol
Rwy’n credu ei bod yn bwysig hefyd i nodi bod y ddau ysbyty'n parhau i ddarparu gwasanaethau cleifion allanol a phrofion diagnostig i oedolion ac i blant yn ogystal â Chanolfan Gofal Brys 24 awr, Uned Arennol i Gleifion Allanol ac Uned dan arweiniad Bydwragedd.
Fodd bynnag, byddai'r newid yn golygu y bydd rhywfaint o ofal iechyd wedi'i gynllunio a gofal dewisol yn cael ei ddarparu yn Telford, felly yn ystod y broses hon, mynegais y farn yn fy ymateb ymgynghori fy hun ei bod hefyd yn hanfodol, ochr yn ochr â'r ad-drefnu arfaethedig o wasanaethau yn Swydd Amwythig, bod rhywfaint o ofal wedi'i gynllunio'n cael ei ddarparu'n lleol yn ein hysbytai cymuned yn Llanidloes, y Drenewydd, y Trallwng a Machynlleth, i osgoi'r angen i deithio allan o'r sir i weld meddyg ymgynghorol. Byddaf yn awyddus i ddeall sut bydd Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Amwythig a Telford yn gweithio mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i gyflawni hyn wrth symud ymlaen.
Rwy’n credu'n gryf y dylid darparu gwasanaethau'r GIG mor agos â phosibl i gartrefi pobl ac rwyf wedi galw eisoes ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu cyllid ychwanegol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gyfer unedau mân anafiadau ac i ddatblygu Cronfa Datblygu Ysbytai Cymuned i annog defnydd arloesol o ysbytai cymuned ar draws ardaloedd gwledig. Byddaf hefyd yn disgwyl i Lywodraeth Cymru ail-edrych ar y cynnig hwn yn dilyn y newidiadau i ofal iechyd dros y ffin yn Swydd Amwythig. Fy marn i yw na ddylai cleifion deithio pellter mawr ar gyfer rhai llawdriniaethau gofal wedi'u cynllunio pan ellir darparu'r math hwnnw o ofal iechyd dewisol yn lleol, gan wneud ysbytai cymuned yn fwy cynaliadwy a sicrhau bod unrhyw faich economaidd, cymdeithasol a seicolegol o deithio'n bellach i gael gofal wedi'i gynllunio neu i ymweld â ffrindiau a theulu yn cael ei leihau.
Mae'r penderfyniad hwn yn garreg filltir sy'n nodi'r pwynt lle mae Ymddiriedolaeth Ysbytai Amwythig a Telford wedi dechrau wynebu eu heriau ac i wneud y diwygiadau angenrheidiol a fydd yn caniatáu iddi ddenu meddygon ymgynghorol a chlinigwyr o'r radd flaenaf. Rwyf wedi fy nghalonogi'n fawr gan y penderfyniad cychwynnol a fydd, rwy’n gobeithio, yn caniatáu gwaith adeiladu i ddechrau am Ganolfan Gofal Brys newydd ar safle Amwythig erbyn diwedd y flwyddyn nesaf (2020).
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i'r ffordd y mae clinigwyr yn parhau i fwrw mlaen â'u gwaith gan wneud eu gorau glas i sicrhau'r safonau gofal iechyd gorau posibl er gwaethaf yr heriau y mae'r Ymddiriedolaeth wedi'u hwynebu yn ddiweddar. Rwy’n gwybod y bydd yr ymroddiad a'r ymrwymiad hwn i gleifion yn parhau.
Gwasanaethau Rheilffordd ar Lein y Cambrian
Y mis diwethaf, roeddwn wedi cyfeirio at lefelau annerbyniol o wasanaeth ar Lein y Cambrian a chefais y cyfle i fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'r Prif Weinidog (gweler y clip fideo uchod) a Phrif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru.
Dros yr haf, gwelsom drenau’n cael eu canslo, trenau hwyr, diffyg staff, problemau signalau, trenau byr (dau gerbyd yn lle pedwar), gorlenwi a diffyg gwybodaeth o ansawdd i deithwyr pan fyddai trafferthion yn codi.
Cefais fy siomi gan ymateb di-hid y Prif Weinidog ond roeddwn yn falch fod Trafnidiaeth Cymru wedi cydnabod nad yw’r gwasanaethau ar Lein y Cambrian wedi bod yn ddigon da.
Maen nhw wedi addo i mi y byddan nhw’n gweithio'n agos â Network Rail i wella dibynadwyedd a pherfformiad dydd i ddydd Lein y Cambrian. Dywedwyd wrtha’i fod fflyd o drenau newydd sbon yn cael eu hadeiladu'n benodol ar gyfer Lein y Cambrian ac y cânt eu cyflwyno o 2022 ymlaen. Bydd y rhain yn darparu mwy o gapasiti i deithwyr ond fe fyddan nhw hefyd yn gallu cyflymu’n well gan ganiatáu i wasanaethau gadw at yr amserlen yn fwy dibynadwy.
Yn ogystal, mae tîm o fewn Network Rail wedi bod yn gweithio i ddatrys problem ysbeidiol gyda'r system signalau sydd hefyd wedi cyfrannu at oedi ar Lein y Cambrian yn ystod y misoedd diweddar.
Yn y tymor hirach, fe fyddan nhw’n cynyddu amlder gwasanaethau i un trên yr awr gydol y dydd ac yn gwneud gwelliannau i gyfleusterau yng ngorsaf Machynlleth yn 2021.
Fel Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, bûm hefyd ar ymweliad Pwyllgor â Depo Cynnal a Chadw Trafnidiaeth Cymru yng Nghaerdydd i drafod eu paratoadau ar gyfer cyfnod heriol yr hydref a'r gaeaf yn dilyn yr holl darfu difrifol a gafwyd y llynedd yn sgil Storm Callum, er mwyn cael sicrwydd na fydd yna darfu tebyg yn digwydd eto pan fydd y tywydd yn dirywio.
Cynigion i newid ein tirweddau
Y mis diwethaf, tynnais eich sylw at gynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Drafft. Mae'r drafft hwn yn cynnwys cynigion ar gyfer datblygu gwynt ar raddfa fawr gan dargedu ardaloedd blaenoriaeth, fel y gwelir yn y map uchod.
Yr wythnos diwethaf, fe wnes i alw hefyd ar Lywodraeth Cymru i wneud datganiad er mwyn i Gynulliad Cymru allu craffu ar gynigion sydd wedi'u cynnwys yn y Fframwaith Drafft.
Rwyf wedi paratoi dogfen fanwl sy'n nodi'r materion yn glir, yn cyflwyno fy marn, ac yn rhoi manylion ar sut i ymateb i'r ymgynghoriad cyfredol sy'n dod i ben ar 1 Tachwedd. Byddwn yn eich annog i ddarllen y ddogfen ac i ymateb i'r ymgynghoriad. Gallwch weld fy nogfen gyngor yma
Llifogydd
Yng nghyfarfod mis Gorffennaf o Grŵp Cyswllt Clywedog ac Efyrnwy, sefydlwyd mai Asiantaeth yr Amgylchedd ac nid Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am dynnu i lawr ac o reoli peryglon llifogydd.
Darparwyd cytundeb am adolygiad tymor hir o dynnu i lawr ac adolygiad tymor byr o reoli'r gwaith hwn. O ran yr adolygiad yn y tymor byrrach, rwyf wedi dod i'r casgliad nad oes gan Asiantaeth yr Amgylchedd lawer o gapasiti. Felly, dydw i ddim yn credu y bydd yr adolygiad tymor byrrach yn darparu unrhyw newid arwyddocaol.
Fodd bynnag, rwy’n teimlo'n fwy cadarnhaol y gall yr adolygiad tymor hir ddarparu rhai newidiadau mwy cadarnhaol, er na chredaf y byddan nhw’n cael eu gwneud am rai blynyddoedd.
Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru nawr yn cwrdd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a Severn Trent Water i ddeall eu hymagwedd tuag at yr adolygiad tymor hirach a sut gallan nhw a’r Grŵp Cyswllt fwydo i'r adolygiad.
Rydw i wedi gwneud ymholiadau hefyd am y posibilrwydd o iawndal i dirfeddianwyr sydd wedi dioddef llifogydd ar eu tir.
Diweddariad: Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
Yn ogystal â fy mhrif rôl fel Aelod Cynulliad dros Sir Drefaldwyn, mae gennyf hefyd y fraint o gadeirio Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol. Sefydlwyd y Pwyllgor i archwilio deddfwriaeth ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif trwy graffu ar wariant a materion polisi ym meysydd datblygu economaidd; trafnidiaeth; seilwaith; cyflogaeth; sgiliau, ac ymchwil a datblygu, gan gynnwys technoleg a gwyddoniaeth.
Ar hyn o bryd, mae'r Pwyllgor yn cynnal nifer o ymholiadau. Roedd yr adroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn ymwneud â’r Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan. Gallwch ddarllen mwy trwy ddilyn y dolenni isod.
Datblygu Trafnidiaeth Cymru yn y Dyfodol
Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan Cymru
Rhwystrau sy'n Wynebu Cwmnïau Bach sy'n Adeiladu Cartrefi
Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
Caffael Cyhoeddus a'r Economi Sylfaenol
Glyn Davies AS, y Cynghorydd Sir Amanda Jenner, Ida Hughes a Russell George
Diolch i Ida Hughes
Cafwyd dathliad arbennig yn Neuadd Bentref Middletown ychydig wythnosau yn ôl i ddathlu gwasanaeth cymunedol Mrs Ida Hughes sydd wedi gwasanaethu ar y Cyngor Cymuned lleol ers 50 mlynedd, yn ogystal â gwasanaethu mewn nifer o sefydliadau lleol eraill.
Mae gennym gannoedd o gynghorwyr tref a chymuned sy'n gwirfoddoli eu hamser ledled y sir a dylid diolch iddyn nhw i gyd am eu gwaith caled, ond hoffwn ddweud diolch arbennig iawn i Ida.